Seiriol Tomos Interiors

Croeso at fy ngwefan

Efo 30+ o flynyddoedd o brofiad yn y maes, yn ennill cleientiau ar dafod leferydd, mae’n bleser genni ddangos peth o’r gwaith rwy wedi’i gyflawnu yn ddiweddar.

Rwy’n cynnig gwasanaeth dylunio, chostio, hyd at gyflawnu’r prosiect pe byddai’r gofyn; yn ogystal â phrynu’r nwyddau a’r amryw gynnyrch am y pris gorau posib imi.

Mi all fod yn ystafell fechan, ynghyd â’r celfi a’r dodrefn meddal; 

neu chegin falle, gan gynnwys y peiriannau mwyaf diweddar;

neu yn hytrach prosiect fwy mawr yn gofyn cydwethrediad gyda phenseiri ac adeiladwyr.

Dydy’r lluniau heb eu gosod mewn trefn arbennig, ond yn hytrach fel pebai yn gyfle i fflicio drwy eich hôff magasîn! Ceir fwy o wybodaeth am unrhyw lun ond am gofyn.

Peidiwch ag oedi i gysylltu â fi os oes gennych brosiect mewn golwg, ac yn meddwl y gallwn i gynnig help i estyn y baich o ‘ddewis’ oddiar eich ysgwyddau.

 

Seiriol